Yr Artist

Ganed Diana ar Ynys Môn ac mae atgofion o’i phlentyndod yn ei hysbrydoli i greu gweithiau sy’n adlewyrchu ei threftadaeth a’i magwraeth Gymreig. Mae chwarae gyda geiriau yn elfen bwysig o’i gwaith.

Bu Diana yn gweithio ym Milan am ddwy flynedd a teithiodd hyd a lled yr Eidal yn gwerthfawrogi gweithiau celf y Meistri. Tra’n ymweld a’r Dwyrain Pell daeth ar draws cyfrwng oedd yn addas ar gyfer y math o waith oedd yn ei greu. Roedd paentio ar sidan yn ei galluogi i weithio yn gyflym gan greu gweithiau ‘gwrthod’ ac aml gyfrwng. Daeth gwahoddiad ym 2008 i gydweithio gydag artisitiaid o’r Iwerddon ar gyfer creu argraffiadau torlun pren a’u cyfuno gyda gwnïo. Teithiodd y gwaith trwy’r Iwerddon, Awstralia a daeth y daith i ben yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni. Arallgyfeiriodd i ffilm a sŵn gyda’i phrosiect MA yn Lerpwl. Mae Diana yn darlithio llawn amser ym Mhrifysgol Bangor ond yn parhau i baentio yn ei amser hamdden.